Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2022

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 4:

Ymdrinnir ag effeithiau ar gydraddoldeb yn yr Asesiadau Effaith Cryno sy’n ymwneud â newidiadau yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (y prif Reoliadau).

Fel rhan o’r broses o ystyried tynhau mesurau diogelu drwy’r Rheoliadau hynny, cynhelir Asesiad Effaith Cryno. Bydd hwn yn Asesiad Effaith Cryno newydd o dan amgylchiadau pan fydd mesurau newydd yn cael eu cyflwyno. Pan fo mesurau wedi cael eu defnyddio o’r blaen, bydd hyn yn golygu adolygu ac o bosibl ddiweddaru Asesiad Effaith Cryno presennol.

Cyhoeddir Asesiadau Effaith Cryno cyn gynted â phosibl ond yn aml mae hyn gryn amser ar ôl i Reoliadau diwygio gael eu gwneud, o ystyried amserlenni ar gyfer sicrhau ansawdd a chyhoeddi deunydd cymhleth a sylweddol yng nghyd-destun yr ystod o waith arall sy’n cael ei wneud i ymateb i’r pandemig.

Wrth lacio mesurau diogelu, dim ond os disgwylir i’r effeithiau fod yn wahanol i’r rhai a nodwyd yn flaenorol y byddai asesiad newydd neu asesiad wedi ei ddiweddaru yn cael ei gyhoeddi. Os disgwylir i’r effeithiau fod yr un fath, bydd yr asesiad effaith a gyhoeddwyd yn flaenorol yn parhau i fod yn ddilys.

Rydym yn ystyried bod yr asesiadau effaith perthnasol sy’n ymwneud yn benodol â chyfyngiadau ar weithgaredd awyr agored, a gyhoeddwyd yn 2021, yn parhau i fod yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Gellir dod o hyd i’r asesiadau perthnasol hyn yn y dolenni isod:

adolygiad-o-gyfyngiadaur-coronafeirws-14-mai-2021-asesiad-effaith-cryno_0.pdf (llyw.cymru)

Lefelau Rhybudd yng Nghymru - canllaw i’r cyfyngiadau: asesiad effaith cryno Awst 2021 | LLYW.CYMRU

Rydym wedi cychwyn adolygiad o’r broses asesu effaith uchod a byddwn yn ystyried sylwadau gan y Pwyllgor.